Finance Committee

Y Pwyllgor Cyllid

 

 

Bae Caerdydd/Cardiff Bay

Caerdydd/Cardiff

CF99 1NA

 

Gorffennaf 2014

 

Galwad am wybodaeth – Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

Mae pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb2015-16, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2015-16ac effaith cyllideb 2014-15. 

Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd cynigion y gyllideb ddrafft, gan na fyddant yn cael eu cyhoeddi tan fis Medi/Hydref 2014. Fodd bynnag, cyhoeddwyd dyraniadau dangosol ar gyfer blwyddyn ariannol 2015-16 yn y Gyllideb Derfynol 2014-15.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid, gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Nodir pedwar cwestiwn penodol gennym yn y papur hwn. Gallwch ateb unrhyw un neu bob un o’r cwestiynau, neu gallwch roi gwybod i ni am eich pryderon a’ch disgwyliadau o ran y gyllideb ddrafft yn gyffredinol.

 

 

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad 

1.   Beth, yn eich barn chi, fu effaith cyllideb 2014-15 Llywodraeth Cymru?

2.   Gan edrych ar y dyraniadau cyllideb dangosol ar gyfer 2015-16, a oes gennych unrhyw bryderon o safbwynt strategol a chyffredinol, neu ynglŷn ag unrhyw feysydd penodol?

3.   Pa ddisgwyliadau sydd gennych o gynigion cyllideb ddrafft 2015-16? Pa mor barod yn ariannol yw’ch sefydliad ar gyfer blwyddyn ariannol 2015-16, a pha mor gadarn yw’ch gallu i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod?

4.   Hoffai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar nifer o feysydd penodol wrth graffu ar y gyllideb. A oes gennych unrhyw sylwadau penodol o ran y meysydd a nodir isod?

-     Paratoi ar gyfer Bil Cymru

-     Trefniadau ariannol y byrddau iechyd lleol

-     Dull gweithredu o ran gwariant ataliol, a sut y cynrychiolir hwn wrth ddyrannu adnoddau (Gwariant ataliol = gwariant sy’n canolbwyntio ar atal problemau a lleddfu’r galw am wasanaethau yn y dyfodol, drwy ymyrryd yn gynnar).

-     Effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, ac a oes digon o adnoddau ar gyfer ei rhoi ar waith.

-     Craffu ar y Gymraeg, cydraddoldeb a chynaliadwyedd.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi’r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth i’w weld yma. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.  Neu, mae copi caled o’r polisi hwn i’w gael drwy gysylltu â’r Clerc (02920 898120).

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid ar gael yma.

 

 

 

 

 

Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor

 

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid, erbyn dydd Mercher, 10 Medi 2014. Os hoffech gyfrannu ond eich bod yn pryderu na fyddwch yn gallu cyflwyno eich tystiolaeth erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor ar 029 2089 8120.

 

Yn gywir

 

Jocelyn Davies

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

 


Atodiad 1 - Gwybodaeth gefndir

 

Pwy ydym ni?

Pwyllgor trawsbleidiol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r Pwyllgor Cyllid, ac mae’n cynnwys Aelodau o bob un o’r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad. 

Nid yw’r Pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am adrodd ar gynigion a roddwyd gerbron y Cynulliad gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â defnyddio adnoddau. 

Pwy yw’r Pwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb?

Y Pwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb yw:

 

Beth yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?

 

Rhaid i gynigion y gyllideb ddrafft gynnwys manylion ynghylch faint o adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol a ffigurau dangosol ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl hynny. Yn fwy penodol, dylai amlinellu gwybodaeth ynghylch:

 

·         Yr adnoddau sy’n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Archwilydd Cyffredinol a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

·         Incwm sydd i gael ei gadw gan y sefydliadau hynny (yn hytrach na chael ei ildio i Gronfa Gyfunol Cymru).

 

·         Yr arian parod sydd i’w dynnu o Gronfa Gyfunol Cymru gan y sefydliadau hynny.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dogfen naratif sy’n rhoi eglurhad pellach o’r dyraniadau manwl i adrannau’r Llywodraeth, yn ogystal â chronfeydd wrth gefn a dyraniadau cyffredinol eraill.

 

 

Pam nad ydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar ôl i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi?

Ni fydd ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn eithrio rhanddeiliaid rhag hefyd ddarparu gwybodaeth, tystiolaeth, pryderon ac awgrymiadau ynghylch meysydd craffu posibl i bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i’r cynigion ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi (30 Medi 2014).

Fodd bynnag, fel arfer bydd pwyllgorau yn dechrau craffu ar waith Gweinidogion y Llywodraeth ynghylch cynnwys y gyllideb ddrafft wythnos neu bythefnos ar ôl iddi gael ei chyhoeddi, gyda’r bwriad o gyflwyno eu casgliadau i’r Pwyllgor Cyllid ddiwedd mis Hydref. Mae’n ofynnol i’r Pwyllgor Cyllid gyflwyno ei adroddiad ei hun ar y gyllideb ddrafft erbyn 11 Tachwedd 2014.

Golyga hyn fod yr amser sydd ar gael i randdeiliaid leisio eu pryderon i’r pwyllgorau yn brin fel arfer (wythnos neu ddwy). Wrth ymgynghori yn awr, gobeithiwn y bydd gan randdeiliaid fwy o amser i ystyried effaith bosibl y gyllideb.

Beth yw’r dyraniadau dangosol ar gyfer 2015-16?

 

Gellir llwytho Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2014-15, gan gynnwys dyraniadau dangosol ar gyfer 2015-16, a’r dogfennau esboniadol oddi ar y we yma:

http://cymru.gov.uk/funding/budget/final-budget-2014-2015/?lang=cyen

 

 

Gellir gweld adroddiad cynnydd diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y Rhaglen Lywodraethu yma: http://cymru.gov.uk/about/programmeforgov/;jsessionid=4CC7D392402B1B3C211BDB2EF6C9F19A?skip=1&lang=cy